Ymgynghoriad ar Fil Drafft Llywodraeth Leol (Cymru)
Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o’r cyfeiriad) yr awdur eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r ymateb, gan fod hyn yn rhoi hygrededd i’r ymarfer ymgynghori.
Enw: Simon Brown
Sefydliad: Estyn
E-bost: simon.brown@estyn.llyw.cymru
Ffôn: 02920 446494
Cyfeiriad: Estyn, Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW
Cwestiynau ynglŷn â’r ymgynghoriad
Dylid darllen y cwestiynau hyn ar y cyd â’r Bil Drafft, Nodiadau Esboniadol drafft a Memorandwm Esboniadol drafft.
RHAN 1
Cwestiwn 1.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 1 y Bil Drafft?
Bydd ymateb Estyn i’r ddogfen ymgynghorol yn canolbwyntio ar gwestiynau yn ymwneud â chyflwyno addysg a gwasanaethau cysylltiedig, a llywodraethu’r gwasanaethau hynny. Mae ein hymatebion yn defnyddio’r dystiolaeth o’n harolygiadau o awdurdodau lleol o 2010 ymlaen, o’r arolygiad thematig ‘Gwella ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol’, Mehefin 2015, o’r dystiolaeth a ddarparwyd gan ein harolygwyr cyswllt awdurdodau lleol ac o dystiolaeth arolygu o’r sectorau eraill rydym yn eu harolygu. Mae tabl 1 a thabl 2 yn amlinellu cynigion priodol ar gyfer cyfansoddiad wyth neu naw sir a gyflawnir trwy uno ardaloedd llywodraeth leol presennol. Mae’n ymddangos na roddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd i rannu Powys yn ôl ei hardaloedd gweinyddol blaenorol cyn 1996 ac wedyn ailddyrannu’r ardaloedd hyn yn ddwy neu fwy o’r siroedd newydd; neu, nid oes cyfeiriad at hyn, o leiaf. |
Cwestiwn 1.2: Beth yw eich barn am yr opsiynau ar gyfer 2 neu 3 Sir yng Ngogledd Cymru, fel yr amlinellir yn Atodlen 1 i’r Bil Drafft?
Rydym yn cytuno â’r Comisiwn y gallai creu un awdurdod lleol sy’n cwmpasu Gogledd Cymru i gyd arwain at anawsterau o ran bodloni anghenion lleol amrywiol lluosog a chynnal cynrychiolaeth ddemocrataidd deg. Nid ydym yn ffafrio unrhyw farn. |
Cwestiwn 1.3: Beth yw eich barn am y ffurfweddu arfaethedig i ardaloedd Llywodraeth Leol yng Nghymru?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.4: A oes angen i Weinidogion Cymru ofyn am unrhyw bwerau eraill i gefnogi integreiddio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys?
Cyfeiriad at yr ymateb i gwestiwn 1.1 ynglŷn â Phowys. |
Cwestiwn 1.5: Beth yw eich barn am y weithdrefn ar gyfer enwi’r Siroedd newydd?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.6: Beth yw eich barn am y newidiadau arfaethedig i’r amserlen etholiadau ar gyfer Llywodraeth Leol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.7: A oes gennych chi unrhyw sylwadau cyffredinol ar y darpariaethau yn adran 16 ac Atodlen 3 y Bil Drafft mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Leol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.8: Sut gallai Llywodraeth Cymru fesur lefel bresennol osgoi Trethi Annomestig?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.9: A oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar y modd y gallai deddfwriaeth yn y dyfodol helpu i leihau achosion o osgoi Trethi Annomestig?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.10: Ym mha ffyrdd eraill allai Llywodraeth Cymru alluogi Llywodraeth Leol i leihau lefel osgoi a thwyll o fewn y system Trethi Annomestig?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.11: A ydych chi’n cytuno y dylid diddymu’r siroedd cadwedig a gwneud diwygiadau canlyniadol fel bod penodiadau Arglwydd Raglawiaid ac Uchel Siryfion yn cael eu gwneud yn y siroedd sy’n bodoli ar ôl 1 Ebrill 2020?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 1.12: A oes materion eraill o natur dechnegol y dylid eu hystyried?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 2
Cwestiwn 2.1: A oes gennych chi unrhyw bryderon am unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 2 y Bil Drafft?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 2.2: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion sy’n ymwneud â Chynghorau Cymuned â chymhwysedd?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 3
Cwestiwn 3.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 3 y Bil Drafft?
Bydd llywodraeth agored a thryloywder y modd y bydd y cyngor yn gweithio yn cael eu cefnogi gan y cynigion yn adrannau 76 a 77 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ddarlledu eu cyfarfodydd a chaniatáu i’r cyhoedd ffilmio a recordio cyfarfodydd y cyngor. |
Cwestiwn 3.2: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y ddyletswydd cyfranogi cyhoeddus arfaethedig a’r gofyniad i ymgynghori ar y gyllideb flynyddol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 3.3: Sut dylid chwilio am, a dewis, cynrychiolwyr cymunedol i fod yn aelodau pwyllgorau ardal cymunedol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 3.4: A ydych chi’n cytuno y dylai Cynghorau Sir allu dirprwyo swyddogaethau i bwyllgor ardal cymunedol? Os felly, a oes unrhyw swyddogaethau y dylid neu na ddylid gallu eu dirprwyo?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 3.5: A oes gennych unrhyw farn ar b’un a oes angen rhoi trefniadau pontio ar waith ar gyfer pwyllgorau ardal presennol, neu a yw arweiniad da o ran amser yn ddigonol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 3.6: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y darpariaethau diwygiedig ar gyfer ‘ceisiadau gwella’ neu ar y rhyngweithio rhwng y darpariaethau hyn a’r rheiny sy’n ymwneud â’r ddyletswydd cyfranogi cyhoeddus (Rhan 3, Pennod 2) a phwyllgorau ardal cymunedol (Rhan 3, Pennod 3)?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 3.7: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’n cynigion eraill sy’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd?
Bydd llywodraeth agored a thryloywder y modd y bydd y cyngor yn gweithio yn cael eu cefnogi gan y cynigion yn adrannau 76 a 77 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ddarlledu eu cyfarfodydd a chaniatáu i’r cyhoedd ffilmio a recordio cyfarfodydd y cyngor. |
Cwestiwn 3.8: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion i wella cyfranogiad gan blant a phobl ifanc trwy’r ddyletswydd cyfranogi cyhoeddus?
Mae hwn yn gynnig cadarnhaol iawn a ddylai helpu plant a phobl ifanc i ddeall yn well sut mae democratiaeth leol yn gweithio ac annog eu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. |
RHAN 4
Cwestiwn 4.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 4 y Bil Drafft?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.2: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y ddyletswydd arfaethedig ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol neu rolau monitro ac adrodd y Pwyllgor Safonau?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.3: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion mewn perthynas â dirprwyo swyddogaethau gan Awdurdodau Lleol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.4: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i roi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) i ystyried arweiniad wrth adolygu’r fframwaith cydnabyddiaeth ariannol i Gynghorwyr?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.5: A ydych chi’n cytuno y dylid gwneud y darpariaethau sy’n ymwneud â mynychu o bell ym Mesur 2011 yn fwy hyblyg?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.6: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig y dylai fod yn ofynnol i Awdurdodau Cysgodol benodi Swyddogion Canlyniadau dros dro?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.7: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar fuddioldeb rhoi pŵer i’r Cyngor ddiswyddo’r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd trwy bleidlais?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.8: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i newid y fframwaith y mae Cynghorau a’u Gweithrediaeth yn ei ddefnyddio i bennu sut bydd eu swyddogaethau’n cael eu dyrannu?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 4.9: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion mewn perthynas â gwaredu a throsglwyddo asedau Awdurdod Lleol?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 5
Cwestiwn 5.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 5 y Bil Drafft?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 5.2: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i wneud Awdurdodau Lleol yn destun dyletswydd trefniadau llywodraethu?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 5.3: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y dull enghreifftiol ar gyfer asesu cymheiriaid a amlinellir yn Atodiad A?
Mewn egwyddor, ac yn gyffredinol, mae’r dull yn ymddangos yn rhesymol. |
Cwestiwn 5.4: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y rôl arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Corfforaethol mewn perthynas ag ymateb yr Awdurdod Lleol i’r adolygiad o hunanasesu, asesu cymheiriaid, asesu cyfunol a llywodraethu?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 5.5: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i wrthod pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus lleol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 5.6: Ai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw’r cyrff cywir i archwilio’r dewisiadau polisi sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus lleol?
Byddai’n ymddangos eu bod yn fecanwaith rhesymol o ystyried eu cynrychiolaeth eang o ddiddordebau ac asiantaethau |
Cwestiwn 5.7: Os felly, a fyddent yn elwa ar bwerau cyfreithiol ychwanegol?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 5.8: Pa fesurau deddfwriaethol y gellid eu hystyried i alluogi Llywodraeth Cymru i gymryd rôl gwasanaethau ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 6
Cwestiwn 6.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 6 y Bil Drafft?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.2: A ddylai fod yn ofynnol i’r Comisiwn Ffiniau gyflwyno eu hadroddiadau drafft i Awdurdodau Cysgodol o fis Mai 2019?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.3: A ddylai’r Cynghorau Sir newydd roi argymhellion y Comisiwn Ffiniau ar waith, neu ai cyfrifoldeb y Comisiwn Ffiniau ei hun ddylai hyn fod?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.4: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion yn ymwneud â hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cynghorwyr Cymuned?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.5: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i ymestyn tymor Cynghorwyr Cymuned sy’n cael eu hethol yn 2017 i chwe blynedd?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.6: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig y dylai fod yn ofynnol i Gynghorwyr Cymuned ystyried a chynllunio ar gyfer anghenion hyfforddi eu haelodau a’u cyflogeion eu hunain?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.7: A oes gennych chi unrhyw sylwadau mewn perthynas â gosod amcanion ar gyfer clerc Cyngor Cymuned?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 6.8: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i ddiddymu’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag arolygon barn cymunedol a gofyn y dylai Awdurdodau Lleol roi system e-bleidleisiau ar waith yn lle?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 7
Cwestiwn 7.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 7 y Bil Drafft?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 7.2: A oes gennych chi unrhyw farn ynghylch p’un a fyddai’n fanteisiol o hyd i sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus statudol pe byddai’n cael ei gyfyngu’n fwy o ran y materion y gallai gyhoeddi arweiniad arnynt na Chomisiwn anstatudol?
Ddim yn berthnasol |
RHAN 8
Cwestiwn 8.1: A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r darpariaethau yn Rhan 8 y Bil Drafft neu ar unrhyw un o’r Atodlenni?
Ddim yn berthnasol |
CWESTIYNAU YCHWANEGOL
Cwestiwn 9.1: A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth y bydd angen eu gwneud?
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 9.2: Rhowch adborth a fyddai, yn eich barn chi, yn ddefnyddiol mewn perthynas â’r dogfennau ategol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Bil Drafft, h.y. Memorandwm Esboniadol Drafft (gan gynnwys yr Asesiad Effaith Rheoleiddio) ac Asesiadau Effaith penodol.
Ddim yn berthnasol |
Cwestiwn 9.3: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y blwch hwn i roi sylwadau.
Ddim yn berthnasol |
Gellir cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau – ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Pe byddai’n well gennych i’ch ymateb gael ei gadw’n ddienw, ticiwch y blwch: